Llenwch arolwg am eich cyfle i ennill i-Pad

Yn sgiliaucymru bydd gennych chi gyfle i lenwi arolwg am eich profiadau yn y digwyddiad. Bydd un person sy’n cyflwyno arolwg wedi ei lenwi yn ennill i-Pad yn y gystadleuaeth wych yma.

Llenwch arolwg am eich cyfle i ennill i-Pad
1: neu bapur yn y digwyddiad neu wedi hynny fe gewch eich cynnwys yn y gystadleuaeth tynnu enw am ddim i ennill Apple iPad. Bernir bod pob ymgeisydd wedi derbyn y telerau ac amodau hyn, a chael eu rhwymo ganddynt, a chan unrhyw ofynion eraill a bennir yn y deunydd hyrwyddol fel petaent wedi eu pennu yn y telerau ac amodau hyn.

2. Y dyddiad cau am y gystadleuaeth tynnu enw yw dydd Gwener 1 Hydref 2010 a rhaid i bob cais ddod i law erbyn 2359 awr ar y dyddiad hwn. Ymgeisir drwy lenwi arolwg am eich profiadau yn ystod eich ymweliad â sgiliaucymru.

3. Mae’r gystadleuaeth tynnu enw am ddim ar agor i breswylwyr yng Nghymru sy’n 14 oed neu’n hŷn, ac eithrio cyflogeion yr Hyrwyddwyr neu gwmnïau proffesiynol sy’n gysylltiedig â sgiliaucymru a’u teuluoedd uniongyrchol neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig yn broffesiynol â’r hyrwyddiad. Un cais yn unig y person a ganiateir. Nid oes angen prynu dim i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

4. Gellir gofyn i’r enillydd gydweithredu â’r Hyrwyddwr at ddibenion cyhoeddusrwydd os oes angen.

5. Mae gan yr Hyrwyddwr yr hawl i anghymhwyso unrhyw gais sydd heb ei wneud yn unol â’r telerau ac amodau hyn. Caiff ceisiadau trydydd parti neu swmp eu heithrio o’r gystadleuaeth. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau nad ydynt yn cyrraedd yr Hyrwyddwr. Nid oes unrhyw wobr amgen nac arian yn ei lle ac nid yw’r un elfen o’r wobr yn drosglwyddadwy.

6. Yr enillydd fydd y cais cyflawn cyntaf a dynnir ar hap o arolygon a gyflwynir, a dynnir gan berson annibynnol cyn pen 14 diwrnod ar ôl y dyddiad cau 1 Hydref 2010. Rhoddir gwybod i’r enillydd yn uniongyrchol erbyn 30 Hydref 2010. I gael enw a sir yr enillydd anfonwch SAE wedi ei marcio "Survey i-Pad " at Prospects Events, 34 High Street, Taunton, TA1 3PN.

7. Os bydd yr Hyrwyddwr (wedi gwneud pob ymdrech resymol i wneud) yn methu â chysylltu â chi o fewn cyfnod rhesymol ar ôl y gystadleuaeth yna mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i dynnu enillydd arall.

8. Mae penderfyniad yr Hyrwyddwr yn derfynol ac ni fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth.

9. Yr Hyrwyddwr yw Prospects Events, rhan o Prospects Services Limited. Swyddfa gofrestredig: Prospects Services Limited, Prospects House, 19 Elmfield Road, Bromley, BR1 1LT. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3042176